Skip to content

Fortitude Trwy Miwsig

Wedi rhedeg yn llwyddiannus am dros 7 mlynedd! Mae ‘Fortitude Trwy Miwsig’ yn SONIG y Diwydiant Cerddoriaeth Ieuenctid SONIG. 

Mae Fortitude yn gwrs cyffrous 8 wythnos ar gyfer y rhai sydd â diddordeb ac angerdd mewn cerddoriaeth a'r diwydiannau creadigol

Cyflwynir y prosiect trwy RecRock, tiwtoriaid annibynnol ac wedi'i ariannu trwy RCT Teuluoedd yn Gyntaf. 

Yn addas i Ddechreuwyr

Mae Fortitude Through Music ar gyfer cyfranogwyr sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, ac sydd rhwng 16 a 24 oed.

Mae'r prosiect hefyd yn cefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd. Addysgu sgiliau a phrofiadau newydd gwerthfawr gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiannau creadigol.

 

Dysgu Sgiliau Newydd

Os ydych chi'n canu, chwarae offeryn, neu eisiau magu mwy o hyder neu anogaeth, Fortitude yw'r cwrs i chi!

Mae na croeso i bawb o bob gallu trwy gydol y cwrs. Bydd cyfranogwyr yn cyffwrdd â phynciau, fel recordio caneuon, yn ogystal â gwneud fideos cerddoriaeth a llawer mwy!

Fort

Grymuso Eich Dyfodol

Mae iechyd meddwl yw un o’r ffactorau anoddaf ym mywydau pobl ifanc pob dydd. O bryder i awtistiaeth, rydym yn deall gall hyn ychwanegu anhawster at y dyfodol. Yn Fortitude ein nod yw eich grymuso trwy gyfrwng cerddoriaeth.

Mae'r cwrs hefyd yn gyfle perffaith i chi helpu mynd i'r afael a rheoli â'ch amgylchiadau. Trwy dechnegau hunan-ddatblygiad ond hefyd cael hwyl ar hyd y ffordd, trwy chwarae cerddoriaeth!

 

Cwestiynau ar gyfer Fortitude Trwy Miwsig

Cwestiynau Fortitude

Mae Fortitude yn gwrs 8 wythnos cyffrous sy'n canolbwyntio ar gerddoriaeth ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth

Yn byw yn Rhondda Cynon Taf a rhwng 16 - 25

Os ydych chi'n hoffi gwrando ar gerddoriaeth neu'n hoffi rhoi cynnig ar ysgrifennu caneuon, mae'r cwrs hwn yn gyfle i gwrdd â phobl o'r un anian a dysgu sgiliau newydd!

Rhowch gynnig ar chwarae offerynnau, ysgrifennu caneuon, rapio, canu, gwneud fideo cerddoriaeth a chael gwybod am rolau eraill mewn cerddoriaeth a'r diwydiannau creadigol trwy sgwrsio â'n tiwtoriaid proffesiynol

 Mae Cwrs Fortitude Trwy Miwsig yn cael ei gynnal bob blwyddyn yn Rhondda Cynon Taf

Mae cyrsiau 2 ddiwrnod yr wythnos gydag amserlen o 10am – 3:30pm

Bydd Fortitude Trwy Miwsig yn rhedeg rhwng Hydref - Rhagfyr 2024 

Os hoffech chi eisiau gwybod mwy am ein cwrs Fortitude nesaf neu weithgareddau tebyg eraill yn ymwneud â cherddoriaeth, llenwch ein ffurflen gysylltu

Byddwn yn dod yn ôl atoch cyn gynted ag y gallwn!

Cysylltwch â ni

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi

Project Prosper Logo
Prosiect Prosper
Hot Jam
Ysgolion Roc Hot Jam
Mae Ysgolion Roc Hot Jam yn helpu pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy ysgrifennu caneuon, recordio a pherfformio.
Ypn Logo
Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc
Dod â phobl ifanc at ei gilydd i rannu eu cariad a’u hangerdd am gerddoriaeth. Ar gyfer pobl ifanc sy'n 16-25 oed ac byw yn Rhondda Cynon Taf.
^
cyWelsh