Skip to content

Beth yw SONIG a Chelfyddydau Ieuenctid?

Rydym yn rhan o Wasanaeth Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

We provide lots of exciting opportunities for young people aged 8 – 25 living in Rhondda Cynon Taf with an interest in music, dance and the visual arts.

Rydym hefyd yn cefnogi pobl ifanc i ddysgu am gerddoriaeth a'r diwydiannau creadigol a chael profiad ohonynt!

Sonig Logo Px

Darparu Cyfleoedd

Ers dros 20 mlynedd rydym wedi darparu pob math o weithdai mynediad agored a rhai wedi'u targedu. Tra hefyd yn cynnal digwyddiadau, seminarau, cyrsiau a darparu cyfleoedd rhwydweithio.

Hoffem i chi ddarganfod mwy am ein prosiectau. Ond hefyd i ddarganfod mwy amdanoch chi a chefnogi eich datblygiad!

Credwn fod cyfleoedd yn y celfyddydau yn cefnogi twf pobl ifanc. Trwy sefydlu gwytnwch, lles ac iechyd meddwl cadarnhaol. Rydym hefyd yn darparu cyfleoedd gweithdai grŵp gan gynnwys mentora ac arweiniad unigol.

Ein nod yw helpu pobl ifanc i dorri trwy'r rhwystrau i'w taith tuag at eu dyheadau. A lle bo'n bosibl, darparu llwybrau gyrfa a chyfleoedd wedi'u cyfeirio.

Search For The Rainbow Exhibition

Cefnogir yn falch gan Teuluoedd yn Gyntaf

Diolch enfawr i'n cyllidwyr, Teuluoedd yn Gyntaf! Am ein galluogi i newid bywydau pobl ifanc trwy gerddoriaeth a'r celfyddydau!

Galluogi pobl ifanc a all fod dan amgylchiadau anodd. Y cyfle a’r rhyddid i fynegi eu hunain, a grymuso’r rheini drwy’r celfyddydau.

Creu llwybr i bobl ifanc tuag at yrfa yn y diwydiannau creadigol.

Logo Teuluoedd yn Gyntaf

Cymerwch rhan

Mae tîm SONIG a Chelfyddydau Ieuenctid bob amser yn chwilio am bobl ifanc i gymryd rhan yn ein prosiectau.

Ydych chi rhwng 8 a 25 oed yn byw yn Rhondda Cynon Taf? Diddordeb mewn unrhyw beth yn ymwneud ag cerddoriaeth neu celfydau? Edrychwch ar ein casgliad o brosiectau ar ein gwefan a gweld pa brosiect sydd fwyaf addas i chi!

cysylltwch â ni - i ddarganfod mwy amdanom ni!

Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid armrywiol ar draws RhCT. Cefnogi ein gilydd i wneud gwahaniaethau enfawr ym mywydau unigolion ifanc. Trwy'r celfyddydau gweledol a cherddoriaeth.

Ymwelwch â'n SONIG a Phrosiectau Celfyddydau Ieuenctid

^
cyWelsh