Fortitude Trwy Miwsig 2024
O Dydd Mercher 4ydd Hydref i Ddydd Iau 7ydd Rhagfyr, amryw weithiau
Fortitude Trwy Miwsig 2024
Ydych chi rhwng 19-25 oed? Hefyd yn byw yn RhCT?
Ydych chi'n hoffi gwrando ar gerddoriaeth? Chwarae offeryn? Ond eisiau gwella neu ddysgu set newydd o sgiliau? Edrych tuag at Fortitude!
Lle gwych i ddod at ei gilydd ar gyfer dechreuwyr a chariadon cerddoriaeth.
Byddwch yn dysgu set hollol newydd o sgiliau ac yn ennill profiad gan gerddorion proffesiynol, tiwtoriaid annibynnol o'n partneriaid yn RecRock! Byddwch yn dysgu sgiliau newydd trwy amrywiaeth o weithgareddau sy’n arferion cyffredin yn y diwydiannau creadigol.
Gan gynnwys recordio caneuon, creu fideo cerddoriaeth, perfformiad byw, a llawer mwy!
Byddwch hefyd yn cwrdd ag unigolion o'r un anian trwy gydol y cwrs. Sydd yn gyfle perffaith i wneud ffrindiau newydd, sy'n rhannu angerdd tebyg trwy gerddoriaeth, neu hyd yn oed yr un chwaeth gerddorol!
Mae'r cwrs hefyd yn anelu at ddarparu gwydnwch a hyder i'r rhai a all fod dan amgylchiadau anodd. Rydym yn cyflawni hyn drwy’r meysydd niferus o fewn y diwydiannau creadigol a thrwy gerddoriaeth. Galluogi’r rheini i ddod allan o’r cwrs ar ôl ei hyd, fel unigolion mwy gwydn.
Os ydych chi’n hoffi Pop-Pync, Jas, Metel, Soul neu Indie does dim ots i ni, mae croeso i fob genre o gerddoriaeth!
Cofrestrwch ar gyfer Fortitude Heddiw!
Cynhelir y cwrs rhwng 9 Hydref a 6 Rhagfyr 2024
Eisiau gwybod mwy?
Cofrestrwch ar gyfer Fortitude heddiw i sicrhau lle Hydref yma!
Hyd
Cynhelir y cwrs rhwng Hydref a Rhagfyr 2024 bob dydd Mercher a dydd Iau!
Dyddiadau
O Dydd Mercher 4ydd Hydref i Ddydd Iau 7ydd Rhagfyr, amryw weithiau
Prisiau
Does dim cost i’r cwrs, mae’n rhad ac am ddim i gymryd rhan!
Mwy am Fortitude
Cwestiynau Fortitude
Beth yw Fortitude?
Mae Fortitude yn gwrs 8 wythnos cyffrous sy'n canolbwyntio ar gerddoriaeth ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth
Yn byw yn Rhondda Cynon Taf a rhwng 16 - 25
Ar gyfer pwy?
Os ydych chi'n hoffi gwrando ar gerddoriaeth neu'n hoffi rhoi cynnig ar ysgrifennu caneuon, mae'r cwrs hwn yn gyfle i gwrdd â phobl o'r un anian a dysgu sgiliau newydd!
Rhowch gynnig ar chwarae offerynnau, ysgrifennu caneuon, rapio, canu, gwneud fideo cerddoriaeth a chael gwybod am rolau eraill mewn cerddoriaeth a'r diwydiannau creadigol trwy sgwrsio â'n tiwtoriaid proffesiynol
Pryd mae'r cwrs yn rhedeg?
Mae Cwrs Fortitude Trwy Miwsig yn cael ei gynnal bob blwyddyn yn Rhondda Cynon Taf
Mae cyrsiau 2 ddiwrnod yr wythnos gydag amserlen o 10am – 3:30pm
Bydd Fortitude Trwy Miwsig yn rhedeg rhwng Hydref - Rhagfyr 2024
Sut alla i gofrestru?
Os hoffech chi eisiau gwybod mwy am ein cwrs Fortitude nesaf neu weithgareddau tebyg eraill yn ymwneud â cherddoriaeth, llenwch ein ffurflen gysylltu
Byddwn yn dod yn ôl atoch cyn gynted ag y gallwn!
Mewn Categorau
Lleoliad
Cookies are Disabled
To be able to view this content you will need to enable the following cookies:
Marchnata
To adjust your preferences
Tanya Walker-Brown
Cydlynydd Diwydiant Cerddoriaeth Ieuenctid SONIG