Skip to content

Galwad Am Artist

Mae’r Rhaglen SONIG a Chelfyddydau Ieuenctid yn edrych am hwylusydd celf gynnes a chroesawgar i greu, cyflwyno a beirniadu Cystadleuaeth Gelf ‘Search for the Rainbow’ ar gyfer pobl ifanc yn RhCT y flwyddyn yma.
Nod y gystadleuaeth yw codi dyheadau, hunan-barch, a theimladau o les mewn darpar artistiaid trwy ddatblygu eu sgiliau mewn ffurfiau celf newydd a chynnal eu harddangosfa eu hunain gydag artistiaid ifanc eraill.

Briff Prosiect

Bydd angen pobl ifanc rhwng oedran 11-25 creu darn celf sy’n cynrychioli eu ‘enfys’ / golau cadarnhaol trwy amseroedd anodd - trwy ddefnyddio lliwiau neu ddeunyddiau newydd, eu sgiliau neu ffordd greadigol arall i gynrychioli eu teimladau yn eu darn.

Mewn cytundeb â Chelfyddydau Ieuenctid bydd yr artist yn gosod briff manwl ar gyfer y cyfranogwyr (bydd hwn yn cael ei gyflwyno a/neu ei ddangos yn ystod y gweithdai). Bydd cyfranogwyr yn mynd ymlaen i ddatblygu eu sgiliau a’u technegau i greu a rhoi teitl i’w darnau i’w cyflwyno i’r gystadleuaeth

Yr Cystadleuaeth

Rhan o’r gystadleuaeth yw bod pob cyfranogwyr yn cynnal eu harddangosfa mewn galeri ble gall eu teulu a ffrindiau mynychu ar ddiwrnod swyddogol.

Bydd yr enillwyr a’r ddau rhai daeth yn ail a trydydd yn hefyd ennill cyflenwadau celf, gan gynnwys offer priodol / deunyddiau ar gyfer eu ffurf gelfyddyd a chefnogaeth gan dîm SONIG a Chelfyddydau Ieuenctid.

Gallwch wylio’r tiwtorialau ar-lein blaenorol ar gyfer y gystadleuaeth yma : Gystadleuaeth Celf Search for the Rainbow / - SONIG a Chelfyddydau Ieuenctid 

Ymgeisydd Delfrydol

Bydd yr artist llwyddiannus yn angen darparu ei dystysgrif DBS ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Rydym hefyd angen eich ymrwymiad i'r canlynol a fydd cael eu darparu yn ôl eich hwylustod trwy gydol y flwyddyn:
  • Gallu cydlynu a chyflwyno 6 sesiynau 2.5 awr i gyd - mewn ysgolion ac yn y gymuned
  • Diwrnod i restru cynigion, dewis enillwyr ac ysgrifennu datganiadau adborth byr
  • Paratoi'r arddangosfa
Dylai artistiaid efo diddordeb anfon CV anffurfiol ac ar wahân eich cynnig erbyn 31ain Gorffennaf
Ebostiwch i Jessica Jenkins
Pwnc E-bost: Search for the Rainbow - Artist Call Out i creativeindustries@rctcbc.gov.uk.
Amlinellwch y canlynol:
  • Y cyfryngau/technegau hoffech chi ddefnyddio
  • Y briff ydych yn gynnig a syniad o sut y byddech yn cyflwyno'r technegau i gyfranogwyr
  • Beth fyddech chi'n chwilio amdano wrth feirniadu darnau

 

I ddysgu mwy am y Gystadleuaeth Search for the Rainbow cliciwch isod!

Cystadleuaeth Gelf Search for the Rainbow

^
cyWelsh